We found a match
Your institution may have access to this item. Find your institution then sign in to continue.
- Title
Integreiddio'r cwricwlwm: yr heriau sy'n wynebu ysgolion cynradd ac uwchradd wrth ddatblygu cwricwlwm newydd yn y celfyddydau mynegiannol.
- Authors
Kneen, Judith; Breeze, Thomas; Davies‐Barnes, Sian; John, Vivienne; Thayer, Emma
- Abstract
Mae integreiddio yn y cwricwlwm yn nodwedd mewn nifer o gwricwla newydd sydd wedi codi mewn gwahanol wledydd ers tua dechrau'r mileniwm. Mae hyn yn ymwneud yn bennaf â dileu'r ffiniau rhwng arbenigaethau pwnc traddodiadol, er mwyn gallu cynnig cyfleoedd dysgu mwy cyfannol a 'chydgysylltiedig'. Mae'r astudiaeth hon yn tynnu ar brofiadau grŵp o athrawon cynradd ac uwchradd yng Nghymru a oedd yn cymryd rhan mewn gwaith i greu fframwaith ar gyfer cwricwlwm integredig i'r celfyddydau mynegiannol. Er bod yr athrawon yn rhannu'r uchelgais o sefydlu cwricwlwm sy'n rhoi statws uwch i'r celfyddydau, mae integreiddio'r cwricwlwm yn cynnig heriau mawr, yn enwedig o ran y ffordd y mae gwybodaeth pwnc yn cael ei deall a'i chyflwyno mewn cwricwlwm integredig. Mae'r athrawon yn delio mewn ffyrdd gwahanol ag integreiddio'r cwricwlwm, lle mae athrawon cynradd yn ffafrio dull trawsddisgyblaethol sy'n rhoi blaenoriaeth i ddysgu a themâu a ysgogir gan y plentyn, a lle mae athrawon uwchradd yn dewis dulliau amlddisgyblaethol, lle mae'r themâu'n ddyfeisiau trefnu ond lle mae pynciau'n cael blaenoriaeth. Mae'r gwahaniaeth rhwng arferion yn awgrymu bod cysyniadau gwahanol o wybodaeth pwnc a meistrolaeth o fewn cwricwlwm integredig. Gan wneud defnydd yn benodol o gysyniadau Bernstein am ddisgyrsiau gwybodaeth, mae'r papur hwn yn awgrymu mai'r perygl mewn cwricwlwm integredig yw bod gwybodaeth ddisgyblaethol yn gwanhau. Er bod y papur hwn yn ymwneud â'r celfyddydau, mae modd cymhwyso'r negeseuon am integreiddio'r cwricwlwm yn fwy eang.
- Publication
Curriculum Journal, 2020, Vol 31, Issue 2, pe85
- ISSN
0958-5176
- Publication type
Article
- DOI
10.1002/curj.52